Diolchgarwch (Unol Daleithiau)
Mae Diolchgarwch yn ŵyl sy'n cael ei dathlu unwaith y flwyddyn yn yr Unol Daleithiau. Mae'n ddiwrnod i ddiolch ac yn rhannol seiliedig ar yr ŵyl arall, Diolchgarwch am y cynhaeaf, sy'n cael ei dathlu trwy'r byd Cristionogol ond mae wedi datblygu i fod yn ŵyl genedlaetholgar yn Unol Daleithiau America oherwydd ei chysylltiad â goroesiad yr ymfudwyr cynnar i'r America. Cynhelir yr ŵyl yn flynyddol ar y pedwerydd Dydd Iau ym mis Tachwedd.[1] Ers 1970 mae nifer o ddisgynyddion brodorion gwreiddiol America wedi bod yn casglu yn Plymouth, Massachusetts i gynnal dydd o alar ar y diwrnod; iddynt hwy, mae pobl o Ewrop wedi gwladychu eu tiroedd ac wedi achosi hil-laddiad ym mysg eu cenhedloedd.
Y Diolchgarwch Cyntaf
[golygu | golygu cod]Gan fod yr Ewropeaid cyntaf i gyrraedd America yn Gristionogion, arferant ddathlu'r holl wyliau Cristionogol arferol, gan gynnwys diolchgarwch; mae cofnod o fewnfudwyr o Sbaen yn dathlu diolchgarwch yn Texas ym 1541[2] ac o fewnfudwyr o Ffrainc yn dathlu'r ŵyl yn Florida ym 1564[3].
Gyda dathliad gan grŵp o ymsefydlwyr crefyddol o Loegr, "y Pererinion", y cysylltir yr ŵyl gyfoes yn bennaf. Teithiodd y Pererinion o Loegr ar long o'r enw Mayflower gan wneud eu cartref newydd yn yr hyn sy'n awr yn Plymouth, Massachusetts, 380 km i'r gogledd-ddwyrain o'r ddinas a elwir, bellach, yn Efrog Newydd yn 1620.
Bu farw llawer o'r Pererinion yn ystod eu gaeaf cyntaf yng Ngogledd America. Roeddent yn oer ac nid oedd ganddynt ddigon o fwyd. Y flwyddyn ganlynol, fodd bynnag, bu Americanwyr Brodorol, o lwyth Wampanoag, yn eu helpu i dyfu cnydau ac i bysgota am gimwch. Ar adeg y cynhaeaf yn ystod gaeaf 1621, roeddent yn ddiolchgar iawn fod ganddynt gnwd da o fwyd i'w fwyta yn ystod y gaeaf i ddod. Maent yn diolch i Dduw yn y ffordd draddodiadol anghydffurfiol ac yn diolch i'r brodorion trwy eu gwahodd i gydwledda a nhw. Bu tua 90 o frodorion o lwyth y Wampanoag yn dathlu gyda thua 50 o fudwyr gyda'r llwyth yn cyfrannu bwydydd o'r byd newydd megis twrci, hwyaid, pysgod, ceirw, aeron, pwmpen, a bara corn - y bwydydd sy'n cael eu cysylltu â'r dathliadau cyfoes.[4]
Datblygiad fel gŵyl genedlaetholgar.
[golygu | golygu cod]Yn ystod Rhyfel Annibyniaeth America cyhoeddodd y llywodraeth wrthryfelgar nifer o ddyddiau o ddiolchgarwch blynyddol i ddiolch am fuddugoliaethau ac i weddïo am ychwaneg o lwyddiant, gyda'r cyntaf yn cael ei gyhoeddi i'w gynnal ar ddydd iau 18 Rhagfyr 1777[5]. Wedi i'r wlad ennill ei hannibyniaeth pleidleisiodd aelodau cyntaf o Dŷ’r Cynrychiolwyr i ofyn i'r Arlywydd George Washington i gyhoeddi diwrnod o ddiolchgarwch cenedlaethol a dathlwyd ar 26 Tachwedd 1789[6]. Cyhoeddodd Washington ail ddiwrnod o ddiolchgarwch ym 1795; cafwyd dathliadau eto ym 1798 a 1799 on ni chafwyd diolchgarwch wedyn hyd 1814 pan gynhaliwyd un i ddiolch i Dduw am fuddugoliaethau dros luoedd Prydain yn ystod rhyfel 1812-1815; cafwyd dathliad o ddiolchgarwch eto ym 1815 a 1816. Ni chafwyd dathliad arall hyd 1863 pan gyhoeddodd yr Arlywydd Lincoln ddydd o ddiolchgarwch i'w ddathlu ar ddydd iau olaf mis Tachwedd 1863 yn ystod Rhyfel Cartref America[7]. Mae'r ŵyl wedi ei chynnal yn flynyddol ers 1863.
Diolchgarwch heddiw
[golygu | golygu cod]O 1863 i 1939 dathlwyd diolchgarwch ar y dydd iau olaf ym mis Tachwedd. Roedd pum dydd Iau ym mis Tachwedd 1939 a phenderfynodd yr Arlywydd Franklin D Roosevelt i gynnal yr ŵyl ar y pedwerydd dydd iau[8], yn rhannol o dan bwysau gan bobl fusnes a oedd yn poeni y byddai cynnal yr ŵyl wythnos yn ddiweddarach nag arfer yn andwyo'r farchnad Nadolig (roedd hybu'r Nadolig cyn diolchgarwch yn cael ei weld yn aflednais). Ym 1940 a 1941 cyhoeddodd Roosevelt bod yr ŵyl i'w chynnal wythnos yn gynnar eto, sef y trydydd dydd iau yn Nhachwedd, penderfyniad amhoblogaidd ymysg rhai Americanwyr traddodiadol. Gwrthododd 22 o'r taleithiau i weithredu'r newid a phenderfynodd Texas ddathlu'r ŵyl ddwywaith ar y diwrnod newydd ac eto, wythnos yn ddiweddarach ar y diwrnod traddodiadol.
Ym 1942 penderfynodd Cyngres yr UDA, bod yr ŵyl i'w chynnal ar y pedwerydd dydd iau ym mis Tachwedd boed pedwar neu bump yn y mis; y drefn sy'n bodoli o hyd.
Mae'r wŷl yn un o bedwar diwrnod sydd yn cychwyn ar y dydd Iau ac yn darfod ar y Sul. Bydd teuluoedd a ffrindiau fel arfer yn gloddesta gyda'i gilydd ar bryd sydd, fel arfer, gyda thwrci fel y brif ddysgl ac yn cynnwys tatws stwnsh, saws llugaeron, pastai pwmpen, nifer o gaserolau, a stwffin.
Cynheli'r nifer o ornestau chwaraeon poblogaidd ar ddydd Diolchgarwch gyda'r gemau yn aml rhwng timau sy'n cael eu hystyried yn brif wrthwynebwyr i'w gilydd megis yr ornest pêl droed Americanaidd rhwng y Washington Huskies a'r Washington State Cougars.
Cynhelir nifer o orymdeithiau i ddathlu'r ŵyl, megis Parêd Siop Macy's yn Efrog Newydd.
Dydd o alar
[golygu | golygu cod]Ers 1970 mae nifer o ddisgynyddion brodorion gwreiddiol America wedi bod yn casglu yn Plymouth, Massachusetts i gynnal dydd o alar ar ddydd iau olaf mis Tachwedd. Iddynt hwy does dim i'w dathlu yn y ffaith bod pobl o Ewrop wedi gwladychu eu tiroedd ac wedi achosi hil-laddiad ym mysg eu cenhedloedd. Maent hefyd yn gwrthwynebu'r fytholeg sydd yn awgrymu bod y dyngarwch a dangoswyd gan lwyth y Wampanoag i'r pererinion yn symbol o'r Indiaid yn estyn croeso i'r gwladychwyr croenwyn, a thrwy hynny'n cyfreithloni'r ymsefydlu[9].
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ how-did-thanksgiving-end-up-on-thursday
- ↑ Thanksgiving Timeline 1541
- ↑ Thanksgiving Timeline 1564
- ↑ "Chicago Tribune Tachwedd 20, 1996 History is Served". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-10-31. Cyrchwyd 2016-11-24.
- ↑ Religion and the Founding of the American Republic
- ↑ Cyhoeddiad Diolchgarwch Washington
- ↑ Abraham Lincoln online
- ↑ The Year We Had Two Thanksgivings
- ↑ Thanksgiving: It Has Never Been About Honoring Native Americans